Cymraeg English

Newyddion

Datganiad Preifatrwydd

Yn unol â Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yr UE sydd yn grym o 25 Mai 2018 ymlaen, rydym wedi adnewyddu ein datganiad preifatrwydd. Bydd cwsmeriaid presennol Intecsta yn derbyn Cytundeb Diogelu Data ar wahân.

Gweld/Lawrlwytho Datganiad Preifatrwydd (Fersiwn 1, 24 Mai 2018, Saesneg yn unig am y tro, fersiwn Gymraeg yn dod cyn bo hir)

Newydd ychwanegu 30 lluniau hardd (dyfrlliw/olew)
ar wefan ein cleient Sandra Phillips

Dylunio'r wefan Datblygu'r wefan
Cynnal a chadw Cofrestriad enw parth
Gwe-letya Ymgynghoriaeth

Tudalen flaen Sandra Phillips

Ymwelwch â'r wefan www.sandraphillips.co.uk

Ynglŷn ag Intecsta

Stiwdio fach amlieithog sy'n arbenigo mewn datblygu adnoddau ar y we yw Intecsta. Ers 1999 yr ydym yn dylunio gwefannau a chreu sustemau gwybodaeth digidol ar gyfer cleientiaid proffesiynol yng Nghymru, y DU a gweddill Ewrop, gan gynnwys:

  • llyfrgelloedd a'r sefydliadau sy'n eu cefnogi
  • cyhoeddwyr, cylchgronau llenyddol, awduron, cyfieithwyr, storïwyr, llyfrwerthwyr, grwpiau llyfrau
  • gwobrau llyfrau, cynlluniau i hybu darllen, phrosiectau llythrennedd a gefnogir gan y llywodraeth
  • dylunwyr graffig, arlunwyr
  • ymgynghorwyr, hyfforddwyr, trefnwyr cynadleddau
  • cyfreithwyr, cyfrifwyr, buddsoddwyr cyfalaf menter
  • darparwyr atyniadau i dwristiaid, llety gwyliau ac adloniant
  • ysgolion gyrru a chwmnïau llogi ceir
  • cwmnïau peirianneg
  • salonau gwallt a harddwch
  • elusennau a phrosiectau meddygol a dyngarol
  • llawer o sefydliadau a busnesau bach a chanolig eraill yn ogystal â datblygwyr prosiectau neilltuol

Gwasanaethau

Mae ein gwasanaethau, sy'n canolbwyntio'n bennaf ar y we fyd eang, yn cynnwys:

  • Dylunio a datblygu gwefannau
  • Ailgynllunio, ailwampio ac ail-lansio gwefannau
  • Gwefannau ymatebol
  • Dylunio apps a rhyngwynebau ar y we
  • Cynnal a chadw gwefannau a sustemau rheoli cynnwys
  • Cronfeydd data ar-lein a rhyngwynebau chwiliadwy
  • Lleoleiddio a chyfieithu
  • Cofrestru enwau parth a gwe-letya
  • Sain a fideo digidol
  • Archwiliad gwefannau ac ymgynghoriaeth TG
  • Golygu a phrawfddarllen cynnwys gwefannau

Yn sgil partneriaethau anffurfiol gyda chwmnïau eraill gallwn hefyd gynnig gwasanaethau fel dylunio print, datblygu hunaniaeth gorfforaethol ac ysgrifennu copi. Am ragor o wybodaeth am unrhyw un o'n gwasanaethau, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion isod.

Cyswllt